Cebabs Cig Oen Glastraeth Dwyryd
Cebabs wedi’i flasu gyda marinâd mêl cyfoethog gan roi sglein arbennig. Gweinir i 4
Cynhwysion:
Cig Oen Glastraeth Dwyryd ~ 400g / 16 x cig llygad y golwythion
Mêl Cymreig ~ 4 llwy fwrdd
Rhosmari wed’i dorri’n fras ~ tusw bach
Olew Olewydd ~ 3 llwy fwrdd
Lemwn ~ sudd 1 lemwn
Madarch e.e. castan ~ 8
Pupur – gwyrdd, melyn / coch ~ 2
Tomatos Bach ~ 4
Pînafal Darnau ~ 8
Rhosmari/Mint ~ i addurno
Dull:
Torrwch y darnau o gig llygad y golwythion (y cig brau gorau) i tua. 5cm o sgwariau/beth bynnag fo maint y golwythion – y llygad.
• Gorchuddiwch y cig gyda mêl, rhosmari ac olew olewydd.
• Gadewch y marinâd yn yr oergell dros nos.
• Ychwanegwch y sudd lemwn i’r marinâd, cymysgu’n dda gan ychwanegu’r pupur a halen.
• Rhowch y cig ar sgiwar cebab bob yn ail gyda’r llysiau fel madarch, pupur (wedi’u torri tua 5cm sgwâr), tomatos a phîn-afal (wedi’u torri’n ddarnau).
• Brwsiwch y cebabs gyda’r marinâd.
• Coginiwch y cebabs o dan y gril neu ar farbeciw wedi’i gynhesu ymlaen llaw hyd nes maent wedi’i coginio i’ch blas (canolig/amrwd sydd orau), a’u grilio ar y ddwy ochr.
• Gweinwch ar unwaith gyda reis poeth neu salad a rhosmari/mint i addurno.
Ffriteri Cig Oen Glastraeth Dwyryd
Ffriteri blasus syml sy’n berffaith a syml mewn rôl bara gyda salad neu gellir ei weini fel prif gwrs gyda rosti tatws a saws cyrens coch. Gweinir i 2
Cynhwysion:
Cig Oen Glastraeth Dwyryd ~ Briwgig 600g
Ionyn ~ 1
Wy ~ 1
Blawd Codi ~ 100g
Llaeth ~ 125ml
Perlysiau Cymysg ~ tusw o rhosmari, mint, teim / sych 2 x llwy dê
Halen ~ pinsiad
Pupur ~ ysgytiad
Dull:
Coginiwch y briwgig yn y badell ffrio nes yn frau.
• Ychwanegwch yr ionyn, halen, pupur a pherlysiau cymysg a’i goginio’n bellach am 5 munud.
• Cymysgwch y blawd, llaeth ac wyau i mewn i gytew llyfn.
• Ychwanegwch y gymysgedd cig i mewn i’r cytew a’i gymysgu’n dda.
• Rhowch ychydig o’r cymysgedd, gyda llwy, mewn padell ffrio gyda olew (gwres canolig) a lledaenu allan i’r ffriteri crwn bach (megis maint byrgyr) a’i adael i goginio nes mae wedi setio.
• Trowch y ffriteri a’u coginio’r ochr arall.
Opsiynau Gweini:
Gweinwch mewn rôl gyda salad ffres neu gweinwch gyda rosti tatws a saws cyrens coch…
Rosti
Cynhwysion:
Tatws fel ‘Maris Piper’ ~ 500g
Olew had rep h.y. Blodyn Aur ~ i ffrio
Halen Môr h.y. Halen Môn ~ pinsiad
Pupur du wedi’i falu ~ ysgytiad
Dull:
• Piliwch y tatws . Gadewch rhai bach yn gyfan, haneru rhai canolig a
torwch y rhai mawr i chwarteri – dylent fod yr un hyd a maint.
• Rhowch y tatws mewn sosban, eu gorchuddio â dŵr, ychwanegwch ychydig o halen a dod â’r cyfan i’r berw. Gostyngwch y gwres a’i fudferwi am 5 munud – dylent fod heb eu coginio drwadd.
• Draeniwch a’i gadael i oeri’n gyfan gwbl (fel arall byddant yn briwsioni wrth i chi eu gratio ), yna gratiwch yn fras.
• Ychanegwch yr halen a’r pupur a gymysgu’n drwyadl.
• Cynheswch ddigon o olew mewn padell ffrio i orchuddio gwaelod, tua 1mm, dros wres canolig.
• Ffurfiwch llond llaw o datws wedi’i gratio yn gacennau bras, dim mwy na 1cm o drwch.
• Ychwanegwch y cacennau tatws i’r badell poeth a’u ffrio heb symud am tua
5 munud, fel eu bod yn ffurfio crwst brown euraidd oddi tano.
•Trowch yn ofalus drosodd a’u coginio nes yn frown euraidd ac yn grisp ar bob
ochr, trowch unwaith neu ddwywaith eto os oes angen. Byddant yn cymryd tua
12 munud i’w coginio i gyd.
• Tynnwch a draeniwch unrhyw olew gan roi y cacennau tatws ar bapur cegin.
Saws Cyrens Coch
Cynhwysion:
Blawd ~ 1 llwy fwrdd
Gwin Coch ~ ¼ botel
Jeli cyrens coch ~ 4 llwy fwrdd
Pupur a halen ~ i’w flasu
Dull:
• Rhowch y sudd o’r cig oen briwgig ar dymheredd canolig, ychwanegwch y blawd ac yna ychwanegwch y gwin.
• Gadewch iddo gynhesu trwy ei droi drwy’r amser, ac yna gan ddefnyddio chwisg, chwisgiwch y jeli cyrens coch nes iddo gael ei ddiddymu’n llwyr.
• Ychwanegwch bupur a halen i roi blas.
I Weini:
Rhowch sleisys/haenau o ffriteri, rosti a courgettes wedi’u coginio bob yn ail ar ben eu gilydd, e.e. ffriter, rosti, courgettes, ffriter, rosti, courgettes, ffriter, ac yn gosod y saws cyrens coch o’i cwmpas, addurnwch gyda rhosmari / mintys gan ei weini’n gynnes.
Slow Roasted Leg of Salt Marsh Lamb by Angela Gray
Salt Marsh Lamb, Samphire & Broad Beans, with Balsamic Meat Juices by BBC Food Recipes
Salt Marsh Lamb with Mint & Honey by BBC Food Recipes
Salt Marsh Lamb cooked with Wild Sea Herbs & quick Homemade Jus by BBC Food Recipes
Roast Loin of Salt Marsh Lamb by the Good Food Channel
Cawl with Salt Marsh Lamb by ITV Food Glorious Food
Roast Leg of Salt Marsh Lamb with a Laverbread, Rosemary & Citrus Jus by Ffres
Various Welsh Lamb Recipes by Eat Welsh Lamb