• Mae rhaid i fferm fod yn aelod cyfredol o Gynllun Cig Glastraeth Cymru i fod yn gymwys.
• Caniateir gwerthu Cig Oen Glastraeth o Fehefin 21ain hyd at Rhagfyr 31ain yn unig mewn unrhyw gyfnod o flwyddyn. Adnabyddir y cyfnod yma fel ‘Tymor Cig Oen Glastraeth Gwynedd/Cymru.’
DIFFINIO TIR GLASTRAETH GWYNEDD/CYMRU
• Rhaid i’r tir fod yng Nghymru.
• Rhaid i’r tir gael ei orchuddio’n gyfan gwbl gan y môr yn ddyddiol am gyfnod o leiaf wythnos o bob mis o ganlyniad i lanw a thrai naturiol.
BWYDO
• Rhaid i wŷn sugno eu mamau am ddau fis cyntaf o’u bywyd ac yna treulio o leiaf 2 fis di-dor (ar ôl pasio 2 fis oed) yn pori tir glastraeth yn rhydd. (Caniateir i dynnu’r wŷn o’r tir os ystyrir bod risg i’w hiechyd).
• Ni ganiateir bwydo dwysfwyd i’r wŷn.
• Dylai’r cyfnod gorffen fod yn llai na chwarter yr amser a dreuliwyd yn pori ar y tir Glastraeth.
YR WŶN
• Rhaid i bwysau marw’r oen fod rhwng 11.5Kg – 18Kg.
• Rhaid i’r wŷn fod o leiaf 120 diwrnod oed cyn cael eu lladd.
• Dylid anelu i gael graddfa ‘R’ neu well o ran fframwaith yr oen, a dosbarthiad ‘3H’ neu teneuach ar gyfer cynnwys braster.
PROSESU
• Rhaid i oen gael ei ladd o fewn 50 milltir (llinell syth ar fap) i’r fferm ble bo’r tir Glastraeth y bu’n ei bori.
• Rhaid i’r anifail gael ei ladd mewn lladd-dy sydd wedi’i gymeradwyo ar gyfer PGI Cig Oen Cymru.
• Dylai carcas yr oen gael ei hongian am o leiaf 4 diwrnod cyn cael ei dorri gan gigydd.
• Rhaid sicrhau olrheinadwyedd llawn ar gyfer pob oen unigol.